Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Wedi'i gyffwrdd
Mae eiliad syfrdanol yn y ffilm o Claire Curneen yn creu Wedi’i gyffwrdd (https://www.youtube.com/watch?v=a5Mx8eeENmw ). Mae hi'n dechrau morthwylio un o'i ffigyrau porslen hŷn, gan greu darnau mae hi wedyn yn eu clymu i'r canghennau sy'n eistedd ar ben y ffigwr newydd. Mae Touched yn cyfeirio at y traddodiad hynafol o goed dymuno, sy’n cael eu galw’n goed ‘clootie’ yn y byd Celtaidd. Ers y cyfnod cyn-Gristnogol, mae pererinion i ffynhonnau cysegredig wedi bod yn clymu offrymau yng nghanghennau coeden gyfagos yn y gobaith y bydd eu gweddïau yn cael eu hateb. Mae Claire Curneen wedi ailgylchu ei gwaith ei hun i barhau â'r traddodiad hwn.