Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Box
Blwch gwreiddiol ar gyfer Medal yr Ymerodraeth Brydeinig a wobrwywyd i Mr Hugh Richard Jones o Lanberis, i gydnabod y rhan allweddol a chwaraeodd wrth ddiogelu gweithdai Gilfach Ddu, gwarchod peiriannau a gwrthrychau, a sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru. Gwobrwywyd y fedal ym mis Ionawr 1982.
Blwch coch gyda’r geiriad ‘British Empire Medal’ wedi'i argraffu ar y caead, ac arfbais du'r Bathdy Brenhinol y tu mewn i'r caead.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.