Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
San Giorgio Maggiore
MONET, Claude (1840 - 1926)
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 1908, bu Monet a'i wraig Alice yn Fenis gan aros gerllaw'r Gamlas Fawr. Mae'r cyfansoddiad hwn yn dangos mynachlog San Giorgio Maggiore yn null Palladio o ffenestr eu gwesty yng ngwesty'r Brittania. Cafodd ei beintio mewn sawl sesiwn, mae'n debyg yn ystod cyfnod 'quatriéme motif' Monet ar ddiwedd y prynhawn rhwng pedwar a chwech o'r gloch. Prynwyd y gwaith gan Gwendoline Davies ym Mharis ym 1912, a hwn yw un o'r gweithiau Agraffiadol cyntaf yng nghasgliad y chwiorydd Davies.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.