Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Grave lantern
Llusern bedd Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed hefyd. Yn dilyn y drychineb, cafodd teuluoedd yr ymadawedig lusernau bedd yn rhodd gan gwmni lleol i'w gosod ar feddi eu hanwyliaid. Mae teulu Marylyn a Carl Minett yn cofio mynwent Aberfan wedi ei goleuo gyda'r nos gan ganhwyllau'r llusernau yn cynrychioli y pob bywyd a gollwyd.