Dod yn Noddwr
Yng Nghalon Cymru
Ein nod yw i ddod â phobl sy'n ymddiddori mewn diwylliant, gwyddorau a threftadaeth Gymreig at ei gilydd yn ein hamgueddfeydd ar gyfer profiadau unigryw.
Rydym ni eisiau eich ysbrydoli chi. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth sy'n fwy o hwyl na 'rhwydweithio' - ymunwch â'n noddwyr.
Cysylltwch â NiProfiadau Arbennig
O goginio cyn-oesol i wobrau celf rhyngwladol, mae arlwy gwych o ddigwyddiadau ar gael i'n Noddwyr.
Rydym ni'n dod â phobl at ei gilydd sydd eisiau gwarchod ein treftadaeth, datblygu artistiaid newydd Cymreig, neu am ein helpu i gynnal ein rhaglen ymchwil.
Cysylltwch â ni neu ymunwch yma. Mae cost noddi yn dechrau o £300 y flwyddyn.Eich Cefnogaeth ar Waith:
Mae'n Noddwyr yn darparu ffynhonnell hanfodol o incwm, sy'n golygu ein bod ni'n gallu ymateb ac addasu i'r byd modern
Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n gallu i geisio am grantiau ariannu cyfatebol; i gaffael gwrthrychau o bwysigrwydd cenedlaethol i'n casgliadau ac i'n gwaith yng nghymunedau Cymru.
Buddion
Mae ein Noddwyr yn mwynhau perthynas ddyfnach ag Amgueddfa Cymru tra hefyd yn cefnogi'n gwaith, gan ein helpu i ysbrydoli pawb trwy stori Cymru.
Mae'r manteision yn cynnwys:
Gwahoddiad i ddangosiadau preifat o arddangosfeydd mawr. Dod i adnabod ein pobl, ein casgliadau a'n harddangosfeydd trwy deithiau a digwyddiadau ‘tu ôl i'r llenni’ i Noddwr yn unig dair gwaith y flwyddyn. Digwyddiad Nadoligaidd blynyddol ar gyfer Noddwyr a gwesteion. Y newyddion diweddaraf gan gynnwys dau gopi'r flwyddyn o gylchlythyr y Noddwyr, Nawdd. Gostyngiad o 10% yn ein siopau, caffis a bwytai.
Blas ar Ddigwyddiadau'r Noddwyr
Os hoffech chi brofi sut beth yw bod yn Noddwr, ymunwch â ni am ddigwyddiad i roi blas:
cofrestru diddordeb mewn mynychu digwyddiad.