Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch i ddechrau profi'r gorau sydd gan eich Amgueddfa i'w gynnig.
Mae aelodau yn cael mynediad arbennig at y profiadau, y bobl, y gwrthrychau a’r llefydd sy’n ein gwneud yn deulu unigryw.
Am gyfnod cyfyngedig, gall Aelodau Teulu Amgueddfa Cymru ddewis manteisio ar gynnig arbennig i ychwanegu Aelodaeth blwyddyn Teulu Cadw hefyd.
Pris Aelodaeth ar y Cyd i deulu am flwyddyn i'r ddau sefydliad yw £120, gan ganiatáu mynediad i holl safleoedd Cadw a holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru ledled Cymru a'n helpu i warchod hanesyddol a diwylliant Cymru.
Ymunwch heddiw i ddod yn agosach fyth i'ch Amgueddfa Genedlaethol ar draws pob un o'r wyth safle a dechrau cael buddion eich aelodaeth yn syth bin:
*Mae opsiynau eraill yn cynnwys ein Cynllun Noddwyr, Cylch y Prif Weithredwr a Chylch y Cadeirydd
Credwn fod gan bawb yr hawl i gael mynediad i'w diwylliant a'u treftadaeth yn rhad ac am ddim. Wedi'r cyfan, mae'r casgliadau cenedlaethol yn perthyn i bobl Cymru.
Aelodaeth Unigol £48 y flwyddyn / Aelodaeth ar y Cyd £60 y flwyddyn / Aelodaeth Teulu £76 y flwyddyn*
Ar-lein Mewn person yn un o'n hamgueddfeydd Drwy'r Post (PDF)
Dychwelwch y ffurflen i:
Tîm Aelodaeth Adran Datblygu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Parc Cathays Caerdydd CF10 3NP
Drwy ymaelodi rydych yn cefnogi Amgueddfa Cymru i wella ein cyfleusterau, creu arddangosfeydd newydd, cynnal digwyddiadau unigryw, a pharhau i adeiladu'r partneriaethau sy'n ein helpu i Ysbrydoli Pobl a Newid Bywydau.