Casgliadau Celf Arlein
Syr Thomas Hanmer (1612-1678) [Sir Thomas Hanmer (1612-1678)]
JOHNSON, Cornelius (1593 - 1663)
Dyddiad: 1631
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 77.5 x 62.2 cm
Derbyniwyd: 1944; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 40
Mae Syr Thomas Hanmer, yr ail farwnig o Barc Bettisfield, Sir y Fflint, yn gwisgo coler les ffasiynol, ac mae cudyn o’i wallt cyrliog dros un ysgwydd. Dim ond pedair ar bymtheg oed oedd e yn y portread hwn, ond roedd eisoes yn dod yn ei flaen yn Llys Siarl I. Yn ystod y Rhyfel Cartref brwydrodd ar ochr y Brenhinwyr, a daeth yn enwog yn ddiweddarach fel garddwr a gyflwynodd y tiwlip Agate Hanmer i Brydain. Cafodd Johnson, er iddo gael ei eni ym Mhrydain o rieni Ffleminaidd, ei hyfforddi dramor cyn sefydlu ei hun fel peintiwr portreadau yn Llundain. Ymddeolodd i'r Iseldiroedd ar ddechrau'r Rhyfel Cartref. Mae tôn ariannaidd y portread yn ychwanegu at gymeriad coeth, teimladwy y gwrthrych.
sylw - (2)
Thank you for your comment, your details have been passed on to our Image Licensing Officer, who will be in touch shortly.
Graham
Digital Media Team
I would be very grateful if you could email me back as soon as possible for you.
With many thanks, Karen Hearn