Casgliadau Celf Arlein
Seiffon ac Arian [Siphon and Salver]
JONES, David (1895 - 1974)

© Ystâd David Jones
Dyddiad: 1930
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 51.8 x 69.7 cm
Derbyniwyd: 1988; Rhodd; Mrs Doreen Lucas
Rhif Derbynoli: NMW A 2041
Daw'r gwaith hwn o'r cyfnod pan oedd gan yr arlunydd ei gysylltiad agosaf â'r avant garde ym Mhrydain, flwyddyn ar ôl ymuno â'r gymdeithas Saith a Phump. Roedd Jones yn arlunydd bywyd llonydd penigamp, ond ychydig luniau olew a beintiai. Yma mae'r paent wedi'i deneuo â thyrpant er mwyn i'r cefndir gwyn ddangos drwyddo, gan roi i'r gwaith loywder sy'n ein hatgoffa o'i hoff dechneg o beintio dyfrlliw.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.