Casgliadau Celf Arlein

Tirlun Clasurol [A Classical Landscape]

JONES, Thomas (1742 - 1803)

Tirlun Clasurol

Dyddiad: 1772

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 45.7 x 59.7 cm

Derbyniwyd: 1952; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 84

Treuliodd Thomas Jones ddwy flynedd yn hyfforddi yn stiwdio Richard Wilson, er ei fod yn cyfaddef yn ei Memoirs iddo wastraffu llawer o amser gyda ‘miri a chwarae gwamal’. Mae’r tirlun bach glasurol hwn yn dangos ôl dylanwad ei feistr yn glir. Ond, yn wahanol i lawer o olygfeydd Eidalaidd Wilson, nid yw’r darlun hwn yn dwyn Rhufain i’r cof – atgofion o Gymru sydd yn y castell, yr afon droellog a’r creigiau.  

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd