Casgliadau Celf Arlein
Tedeum
KITAJ, R. B. (1932 - 2007)
© Marlborough Fine Art (Llundain) Cyf
Dyddiad: 1963
Cyfrwng: acrylig ar gynfas
Maint: 122.5 x 184.0 cm
Derbyniwyd: 1977; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 226
Ganed Kitaj yn Ohio a daeth i Brydain ym 1958 a chael ei hyfforddi yn Rhydychen a'r Coleg Brenhinol. Mae Swrealaeth ac astudiaethau iconograffeg wedi dylanwadu'n drwm ar ei waith. Ffynhonnell y darlun hwn, a fynegir yn Saesneg fel Tedium, yw ffotograff o gynhyrchiad o No Exit gan Jean Paul Sartre. Y ffigwr anferth ar y dde yw Goethe, sy'n edrych allan drwy'r ffenestr. Mae'r ffordd lac y mae'n sefyll yn adlewyrchu'r teitl ac yn cyfeirio at Ennui, sef darlun gan W.R Sickert sy'n cwmpasu anniddigrwydd dyn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.