Casgliadau Celf Arlein
Badau, Heyst
LE SIDANER, Henri Eugène (1862 - 1939)
Dyddiad: 1900
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 71.1 x 92.2 cm
Derbyniwyd: 1910; Prynwyd; Cronfeydd Pyke Thompson
Rhif Derbynoli: NMW A 2548
Ganed Le Sidanier yn nhalaith Ffrengig Mauritius a maged ef yn Dunkirk. Cafodd ei hyfforddi ym Mharis ac ym 1898 bu yn Bruges, lle mabwysiadodd Argraffiadaeth fel techneg weithio. Mae i'w olygfeydd o drefi, sydd fel rheol yn amddifad o ffigyrau dynol, naws Symbolaidd o dristwch. Mae'r gwaith hwn yn darlunio'r harbwr yn Heyst, tref i'r gogledd o Zeebrugge yng Ngwlad Belg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.