Casgliadau Celf Arlein
Y Tywysog Eugene Alexander o Thurn a Taxis (1652-1714)
LEERMANS, Pieter (fl.1649 - 1706)

Dyddiad: 1682
Cyfrwng: olew ar gopr
Maint: 30.0 x 22.3 cm
Derbyniwyd: 1950; Rhodd; Mary Collin
Rhif Derbynoli: NMW A 37
Daw’r gair modern ‘tacsi’ o enw un o deuluoedd cyfoethocaf Ewrop, y Thurn a’r Taxis. Enillodd y teulu ffortiwn drwy drefnu cludiant post yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cododd Eugene Alexander statws y teulu’n aruthrol. Daeth yn Dywysog yr Ymerodraeth, priododd deulu llywodraethol yn yr Almaen, a dyfarnwyd Urdd y Cnu Auriddo, ac mae’n gwisgo’i gnu yn y darlun hwn. Un o ddisgynyddion Gerard Dou oedd Leermans a dilynai ei arddull fanwl.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.