Casgliadau Celf Arlein
Robert Davies o Wysane (1616-1666) [Robert Davies of Gwysaney (1616-1666)]
LEIGH, Thomas (fl.1635 - fl.1643)
Dyddiad: 1643
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 69.9 x 58.4 cm
Derbyniwyd: 1948; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 20
Dyma Robert Davies Gwysaney wedi’i wisgo fel bonheddwr yn ei grysbais aur a’i goler lydan. Ef oedd Uchel Siryf Sir y Fflint, ac fel y rhan fwyaf o uchelwyr Cymru, roedd yn Frenhinwr yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn ystod y flwyddyn pan eisteddodd ar gyfer y portread, edwinodd y gefnogaeth i’r Brenin yn y gogledd-ddwyrain. Ond dwy flynedd yn ddiweddarach, torrodd Seneddwyr ddrws blaen ei gartref i lawr a rhoi Robert yn y carchar am iddo gefnogi’r frenhiniaeth.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.