Casgliadau Celf Arlein
Charles Norris (1779-1858)
LINNELL, John (1792 - 1882)
Dyddiad: 1837
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 111.8 x 86.4 cm
Derbyniwyd: 1962; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 467
Ymsefydlodd Charles Norris (1779-1859) yn Ninbych-y-pysgod ym 1805.Cynhyrchai lyfrau topograffyddol a oedd yn cynnwys ei ddarluniau a'i ysgythriadau. Yr amlycaf yn eu plith yw ei Etchings of Tenby 1812. Mae ei ddarluniau niferus yn gofnod pwysig o adeiladau canoloesol Sir Benfro. Mae John Linnell, tad-yng-nghyfraith Samuel Palmer a noddwr William Blake, yn fwyaf adnabyddus am ei dirluniau bugeiliol. Pan oedd yn ddyn ifanc llwyddai i gynnal ei hun drwy beintio portreadau, ond ceisiau eu gwneud 'fel natur ac fel y person ar ei orau'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.