Casgliadau Celf Arlein
L a CH [L & CH]
MOHOLY-NAGY, Laszlo (1895 - 1946)
© DACS 2002
Dyddiad: 1936-9
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 96.5 x 76.1 cm
Derbyniwyd: 1977; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 822
Daeth Moholy-Nagy o Hwngari ar draws Dada ac Adeiladyddiaeth ym Merlin ym 1919-23 a bu'n gweithio yn y Bauhaus ym 1923-28. Mae teitl y gwaith Adeiladyddol hwn yn awgrymu iddo gael ei ddechrau yn Llundain a'i orffen ar ôl i Moholy-Nagy symud i Chicago ym 1937. Bryd hynny gwrthodai gynrychioliadaeth yn llwyr. Astudiaeth yw'r peintiad hwn ar gyfer cyfansoddiad wedi ei wneud o haenau o bersbecs a metel a fyddai'n harneisio golau ac adlewyrchiadau i roi delwedd ddarfodedig ansylweddol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.