Casgliadau Celf Arlein
Potyn Helen [Helen's Pot]
MORRIS, Sir Cedric (1889 - 1982)
© Ystâd Cedric Morris
Dyddiad: 1936
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 92.2 x 61.5 cm
Derbyniwyd: 1999; Cymynrodd; Mrs Phyllis Bowen
Rhif Derbynoli: NMW A 13524
Roedd Morris yn arddwr arbennig a brwd iawn, er nad oedd ganddo'r amynedd i drefnu blodau: roedd yn well ganddo eu 'gosod' yn syml. Dywedodd fod y tu ôl i beintio blodau '...linell esoterig o feddwl sy'n mynegi ei hun mewn symbolau sy'n portreadu tragwyddoldeb y profiad sy'n perthyn i flodau, nid yn unig o ran ymdrech a llwyddiant, ond hefyd o ran crisalu pob hen ofn.' Rhoddwyd y potyn i Morris gan Helen Lubbock, sef y Fonesig Lubbock wedyn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.