Casgliadau Celf Arlein

Gwn Trwm mewn Brwydr [A Heavy Gun in Action]

BRANGWYN, Sir Frank William (1867 - 1956)

(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Dyddiad: 1925-26

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 366.0 x 376.0 cm

Derbyniwyd: 1931; Rhodd; Frank Brangwyn

Rhif Derbynoli: NMW A 2530

Cymry oedd rhieni Brangwyn a châi ei waith ei werthfawrogi'n fawr yng Nghymru. Mae'r darlun hwn yn un o nifer o olygfeydd rhyfel o'r cynllun cyntaf a gafodd ei wrthod ar gyfer yr Oriel Frenhinol ym Mhalas Westminister.

Comisiynwyd yr addurniadau hyn gan yr Arglwydd Iveagh fel cofeb i'w gyfoedion a'u perthnasau a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1927-33, peintiodd yr arlunydd ail gynllun yn dangos yr Ymerodraeth Brydeinig. Cafodd hwnnw hefyd ei wrthod a'i osod wedyn yn Neuadd Brangwyn yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd