Casgliadau Celf Arlein
Croesi'r Traeth i Farchnad Abertawe [Crossing the Sands to Swansea Market]
PRITCHARD, Edward Francis Drew (1809 - 1905)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 73.9 x 127.5 cm
Derbyniwyd: 1936; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 522
Ganed Edward Pritchard ym Mryste a bu'n gweithio yno, yn Llundain a Southampton. Arbenigai ar olygfeydd glan-môr ym Mhrydain a Gwlad Belg. Cafodd yr olygfa hon ei harddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1856. Mae'n dangos ffermwyr yn mynd â gwartheg a chynnyrch amaethyddol o Ystumllwynarth ar draws y traeth yn Abertawe ar lanw isel.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.