Casgliadau Celf Arlein
Lluniaeth ar fin y Ffordd
BRELING, Heinrich (1849 - 1914)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 31.5 x 22.7 cm
Derbyniwyd: 1912; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Caerdydd
Rhif Derbynoli: NMW A 2635
Mae thema’r milwr teithiol neu’r crwydryn yn gofyn am luniaeth mewn tafarn ar ymyl y ffordd wedi’i fabwysiadu o gelf gogledd Ewrop yr ail ganrif ar bymtheg a chyfnod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Roedd golygfeydd genre hanesyddol fel hyn yn gyferbyniad poblogaidd i luniau o fywyd modern, a ystyrid gan rai yn fwy soffistigedig ac addurnol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.