Casgliadau Celf Arlein

Thomas Jones (1742-1803) a'i Deulu [Thomas Jones (1742-1803) and his Family]

RENALDI, Francesco (1755 - fl.1798)

Thomas Jones (1742-1803) a'i Deulu

Dyddiad: 1797

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 74.9 x 101.6 cm

Derbyniwyd: 1961; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd

Rhif Derbynoli: NMW A 92

Yma mae Thomas Jones yn ymddangos gyda’i deulu ym Mhencerrig. Fe’i disgrifiwyd gan ffrind iddo fel ‘stwcyn bychan o ddyn, cyn grynned â phêl, gwir gorgi o Gymro’. Dangosodd Jones ymwybyddiaeth o’i hunaniaeth Gymreig gydol ei oes – hyd yn oed yn ystod ei gyfnod dramor. Yn Llundain symudai mewn cylchoedd Cymreig, gan gymdeithasu â chydwladwyr fel William Parry; ac yn yr Eidal trefnodd wledd Gŵyl Ddewi ar ysgraff ar y Tiber.  Ganed Renaldu yn Llundain, ond daeth yn gyfeillgar â'r peintiwr o Gymru, Jones, yn Rhufain ym 1781. Treuliodd 1786-96 yn India. Cafodd y darlun ymddiddan hwn ei ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1798, ac mae'n darlunio Jones gyda'i offer peintio. Mae ei wraig Maria o Ddenmarc yn eistedd wrth y droell. Mae eu merch Elizabeth yn canu'r spined, a'i chwaer Anna Maria yn sefyll y tu ôl iddi. Mae'n bosibl mai'r dyn arall yw brawd iau Thomas, y Parchedig David Jones.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd