Casgliadau Celf Arlein

Charlotte (Grenville), Y Foneddiges Williams-Wynn (1754-1830) a'i Phlant [Charlotte (Grenville), Lady Williams-Wynn (1754-1830) and her Children]

REYNOLDS, Sir Joshua (1723 - 1792)

Charlotte (Grenville), Y Foneddiges Williams-Wynn (1754-1830) a'i Phlant

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 159.4 x 215.7 cm

Derbyniwyd: 1998; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Rhif Derbynoli: NMW A 12964

Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn

Mae'r llun Charlotte Grenville, gwraig Syr Watkin Williams Wynn, a'i phlant yn darlunio ail wraig Syr Watkin Williams-Wynn. Priododd y ddau ym mis Rhagfyr 1771. Cafodd chwech o blant a oroesodd, ac yma mae'n debyg mai'r tri hynaf sydd gyda hi: Watkin (g. 1772), Fanny (g. 1773) a Charles (g. 1775). Mae oedran y plant yn y llun yn awgrymu bod y portread wedi ei beintio tua 1778.

Roedd Charlotte Grenville (1754-1830) yn un o deulu Grenville o Stowe, ac yn aelod o un o'r teuluoedd oedd yn rheoli yn y ddeunawfed ganrif ym Mhrydain. Hi oedd merch hynaf y Gwir Anrhydeddus George Grenville (1712-70), a fu'n Brif Weinidog rhwng 1763 a 1765. Wedi ei farwolaeth ef, ei hewythr oedd ei gwarcheidwad, Yr Ail Iarll Temple. Roedd William Pitt yr Hynaf yn ewythr arall iddi, trwy briodas.

Arhosodd y portread hwn ym meddiant yr arlunydd hyd wedi marwolaeth Syr Watkin ym mis Gorffennaf 1789. Adroddodd papur newydd ar 19 Medi 1789: 'Mae portreadau hardd Syr Joshua o'r Arglwyddes W.W. Wynne a'r Arglwyddes Betty Delme a'u plant, gyda rhai portreadau eraill hardd, sydd am lawer o flynyddoedd wedi eu cadw yn ei inffyrmari, yn awr wedi cael eu dwyn allan i'r goleuni, a gyda chymorth farnais ac ychydig gyffyrddiadau â'i bensel, yn hawlio ein sylw eto a'n cymeradwyaeth dwymgalon'.

Mae ffurf y portread ac agwedd yr Arglwyddes Charlotte, yng nghyswllt ei phlant, yn dwyn i'r cof y darluniau Fenisaidd o ran gyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg ar y thema Gorffwys wrth Ffoi i'r Aifft, gyda Ioan Fedyddiwr. Mae i'r portread hefyd gynhesrwydd a chyfoeth o liw sy'n adleisio peintiadau'r Uchel Ddadeni yn Fenis, yr oedd Reynolds yn eu hedmygu gymaint. Mae gwisg yr Arglwyddes Charlotte, gyda'r gwddf siâp 'v' isel a chlogyn wedi ei leinio ag ermin yn dilyn y ffasiwn Dwrcaidd a ddaeth yn boblogaidd yn nechrau'r ddeunawfed ganrif trwy'r Arglwyddes Mary Wortley Montagu a'r ysgythriadau o wragedd o Dwrci yng ngwaith Ferriol Recueil de cent estampes (1714); effaith sy'n cael ei gryfhau gyda'r glustog fawr a'r carped dwyreiniol.

Daw ystum yr Arglwyddes Charlotte, sy'n gorwedd ac yn darllen, o'r portreadau pastel o wragedd mewn gwisg Dwrcaidd gan Jean-Etienne Liotard (1702-89), a oedd yn Lloegr ym 1772-6 ac yn arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1773-4. Mae'n bosibl mai'r bwriad gyda'r portread hwn oedd rhagori ar foethusrwydd gwaith pastel Liotard, oedd yn un o brif gystadleuwyr Reynolds.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd