Casgliadau Celf Arlein
Sir Watkin Williams-Wynn (1749-1789) a Henrietta (Somerset), y Foneddiges Williams-Wynn (1748-1769) [Sir Watkin Williams-Wynn (1749-1789) and Henrietta (Somerset), Lady Williams-Wynn (1748-1769)]
REYNOLDS, Sir Joshua (1723 - 1792)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 253.5 x 167.4 cm
Derbyniwyd: 1998; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 12965
Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn
Mae Syr Watkin Williams-Wynn a Henrietta, ei wraig yn darlunio Syr Watkin Williams-Wynn, yn ugain oed, gyda'i wraig yr Arglwyddes Henrietta Somerset. Priodwyd y cwpl ar 11 Ebrill 1769 a bu hi farw ar 24 Gorffennaf yr un flwyddyn. Roedd Henrietta Somerset yn ferch i gyfaill a chydymaith gwleidyddol ei dad, y 4ydd Ddug Beaufort.
Darlunnir y cwpl yn eu llawn faint mewn gwisgoedd du a phinc gan Van Dyck sy'n gweddu i'w gilydd, ac maent yn gafael mewn masgiau theatrig mewn lleoliad pensaernïol gyda llenni, ger ffiol anferth. Mae'n debyg bod y llun wedi ei gychwyn fel portread priodas, er ei bod yn annhebygol iddo gael ei orffen cyn marwolaeth yr Arglwyddes Henrietta ar 24 Gorffennaf 1769. Eisteddodd Williams-Wynn i Reynolds ym mis Chwefror 1769, a'i ddyweddi ym mis Mawrth, a Syr Watkin unwaith eto ym mis Awst. Mae'r wisg ddu sydd gan y ffigyrau yn awgrymu ei fod wedi ei orffen fel portread coffa wedi marwolaeth Henrietta Williams-Wynn.
Mae'r Arglwyddes Henrietta yn sefyll mewn ffordd sy'n gyffredin ym mhortreadau Reynolds o ferched, sy'n deillio o arferion stiwdio ei feistr Thomas Hudson. Mae agwedd Syr Watkin yn cyfuno dau brototeip clasurol: ffigwr melancolaidd o arch garreg yr Awen, a ysgythrwyd ym 1747 ac sydd yn awr yn y Louvre, a'r Hercules Farnese, fu yn Rhufain hyd 1787, ac sydd yn Naples yn awr. Yn ei Discourses, roedd Reynolds yn canmol yr Hercules fel un o'r tri math delfrydol o harddwch gwrywaidd ('cryfder cyhyrog' yn hytrach na 'gweithgaredd' a 'thynerwch'). Yn sicr hwn oedd y math oedd agosaf at siâp byr a chadarn Syr Watkin. Mae'r ffiol yn y cefndir o fath sy'n ymddangos mewn nifer o bortreadau gan Reynolds, ac mae wedi ei gopïo o ysgythriad o'r ail ganrif ar bymtheg gan G.B. Galestruzzi yn dilyn Polidoro da Caravaggio.
Mae'r ddau yn y llun yn gwisgo gwisgoedd 'Vandyck', oedd yn ffasiynol o'r 1740au ac roeddynt yn parhau i ymddangos mewn portreadau Prydeinig trwy'r 1770au. Roedd gan Syr Watkin ddiddordeb angerddol yn y theatr, ac mae nifer o gyfeiriadau at wisgoedd 'masquerade' yng nghyfrifon y teulu Williams-Wynn.
sylw - (3)
Many thanks for pointing out these typos, we have corrected the text now,
Graham Davies, Online Curator.
Best wishes, Donato