Casgliadau Celf Arlein
Y Cerydd
RIBOT, Augustin-Theodule (1823 - 1891)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 45.8 x 38.4 cm
Derbyniwyd: 1915; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2176
Ganed Ribot yn Normandi a daeth i Baris ym 1851 gan ddod yn gyfeillgar â Francois Bonvin. Bu'n arddangos yn y Salon o 1861 ac ennillodd y Legion d'Honneur ym 1878. Mae ei olygfeydd genre realistig yn dangos dylynwad y peintiwr Sbaenaidd Jusepe do Ribera (1590-1652). Ym 1913 rhoes Syr Frederick Wedmore y gwaith hwn ar fenthyg i Arddangosfa Fenthyg Caerdydd. Canmolodd Ribot yn arbennig am ei 'ddealltwriaeth ryfeddol o gymhlethdodau'r hen ynghyd â dealltwriaeth o symlrwydd deallus yr ifanc'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.