Casgliadau Celf Arlein
Gwrogaeth i Beethoven [Homage to Beethoven]
RICHARDS, Ceri Giraldus (1903 - 1971)
© Ystâd Ceri Richards 2002. Cedwir pob hawl DACS
Dyddiad: 1953
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 127.3 x 102.4 cm
Derbyniwyd: 1956; Rhodd; Y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes
Rhif Derbynoli: NMW A 591
Cafodd marwolaeth Dylan Thomas ym 1953 effaith fawr ar Richards a chynhyrchodd gyfres o weithau marwnad i'r bardd. Mae'r cyfansoddiad alegorïol hwn yn deyrnged i un arall o arwyr yr arlunydd, Ludwig van Beethoven. Mae'n cyfosod dwy hoff thema. Y naill yw merch yn troi oddi wrth y piano a'r corn Ffrengig at ddalen o gerddoriaeth, a'r llall yw pâr o geffylau'n carlamu, sy'n dod yn wreiddiol o Hela Llew gan y peintiwr Ffrengig Rhamantaidd Eugène Delacroix (1798-1863).
sylw - (1)