Casgliadau Celf Arlein
Gwyn a Thywyll [White and Dark]
RICHARDS, Ceri Giraldus (1903 - 1971)
© Ystâd Ceri Richards 2002. Cedwir pob hawl DACS
Dyddiad: 1936
Cyfrwng: adeiladwaith pren peintiedig
Maint: 52.1 x 55.6 cm
Derbyniwyd: 1965; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Knapping
Rhif Derbynoli: NMW A 221
Ganed yr arlunydd ger Abertawe a bu'n astudio yn yr ysgol gelfyddyd leol a'r Coleg Brenhinol. Mae'r cyfansoddiad haniaethol hwn ar y ffin rhwng peintio a cherflunio a daw o'r flwyddyn y trefnodd Grw^p Swrealaidd Prydain yr Arddangosfa Swrealaidd Ryngwladol yn Llundain. Mae'n deyrnged i Picasso ac Arp, ac yn dadansoddi'r berthynas rhwng y golau a'r tywyll, ffurf a gwagle mewn ffordd debyg i gerfweddau cyfoes Ben Nicholson a cherfiadau Henry Moore.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.