Casgliadau Celf Arlein
Kashan
RILEY, Bridget (1931 - )
Dyddiad: 1984
Cyfrwng: olew ar liain
Maint: 211.5 x 171.0 cm
Derbyniwyd: 1999; Prynwyd; gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Derek Williams
Rhif Derbynoli: NMW A 14059
Bridget Riley yw un o ffigyrau amlycaf celf Brydeinig yn y cyfnod ers y Rhyfel. Yn sicr, hi yw ein harlunydd haniaethol enwocaf. Astudiodd yng Ngholeg Goldsmiths' ac yn y Coleg Celfyddyd Brenhinol, a daeth i'r amlwg yn sgîl ei lluniau 'Opgelfyddyd' haniaethol du a gwyn, caledlin. Dechreuodd ddefnyddio lliw yn y 1960au diweddar, ac mae 'palet Eifftaidd' y llun hwn yn adlewyrchu lliwiau llachar paentiadau o feddrodau'r Aifft a welodd yr arlunydd ym 1979. Cyfeiria'r teitl at dalaith o'r un enw yn Irac, a oedd yn ganolfan draddodiadol i'r fasnach sidan. Roedd gweithiau o'r fath yn gychwynbwynt i'r arlunydd archwilio dyfnder - pwnc a fu o ddiddordeb cynyddol iddi yn ystod diwedd y 1980au a dechrau'r 1990au.