Casgliadau Celf Arlein
Plentyn (Lliwiau Glas) [Child (Blues)]
ROBERTS, Julie (1963 - )

Cyfrwng: acrylig ar gynfas
Maint: 152.0 x 152.0 cm
Derbyniwyd: 1996; Rhodd; Y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes
Rhif Derbynoli: NMW A 3995
Ganed yr arlunydd yng Ngogledd Cymru a'i hyfforddi yn Wrecsam, Llundain a Glasgow. Mae Roberts yn gosod pethau sinistr - fel byrddau mortiwari ag arnynt gyrff o dan amdoeau - yn erbyn patrwm o stribedi lliw. Caiff y lluniau eu paentio mewn ffordd gynhyrfus a chythryblus mewn paent olew sydd â naturioldeb grymus, o edrych arno o bell, yn erbyn lliw acrylig y cefndir sydd fel pe bai'n dirgrynu. Pan holwyd hi ym 1995 pa arlunydd, byw neu farw, yr hoffai sgwrs ag ef neu hi, Velasquez oedd yr ateb.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.