Casgliadau Celf Arlein

Merch wrth Ffenestr

SCHALCKEN, Godfried (1643 - 1700)

Merch wrth Ffenestr

Cyfrwng: olew ar fwrdd

Maint: 32.2 x 26.8 cm

Derbyniwyd: 1921; Trosglwyddwyd; Tŷ Turner

Rhif Derbynoli: NMW A 35

Mae cannwyll yn bwrw golau dramatig ar y ferch wrth iddi agor caead y ffenestr. Mae ei dillad ar hyd y lle, a’i ffrog wedi’i datod i roi cip pryfoclyd o’i bronnau. Dehonglir motif gwraig wrth ffenestr yn aml fel putain yn denu cariadon o’r stryd yn hwyr yn y nos. Schalcken oedd un o arlunwyr mwyaf poblogaidd Dordrecht. Peintiwr portreadau ac arbenigwr ar olygfeydd golau cannwyll oedd Schalcken a fu'n byw yn bennaf yn Dordrecht, er iddo dreulio o 1692 i 1697 yn Lloegr. Daeth yn fyd-enwog am ei olygfeydd yng ngolau cannwyll gyda’r nos.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd