Casgliadau Celf Arlein

Yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815) [Lieutenant-General Sir Thomas Picton (1758-1815)]

SHEE, Sir Martin Archer (1769 - 1850)

Yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815)

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 214.0 x 137.1 cm

Derbyniwyd: 1907; Rhodd; Iarll Plymouth

Rhif Derbynoli: NMW A 473

Mae Thomas Picton – Teyrn Trinidad neu’r ‘Blood-Stained Governor’ i roi enwau eraill iddo – yn ffigwr dadleuol. Yn hanesyddol cafodd ei bortreadu fel arwr, ond mae ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad a’r modd yr oedd yn trin caethweision yn golygu y caiff ei gofio hefyd fel arweinydd arbennig o greulon.

Cafodd Picton ei enw da diolch i’w allu milwrol. Bu’n ymladd o dan Ddug Wellington yn ystod Rhyfel Iberia, ac yn ôl Wellington roedd yn ddyn ‘garw ac aflednais’, ond roedd ei ymddygiad wastad yn dda. Cafodd lwyddiant milwrol, ac ef oedd y swyddog uchaf ei reng i gael ei ladd wrth ymladd dros Brydain ym Mrwydr Waterloo, 1815.

Ar ôl ei farwolaeth câi ei ystyried yn arwr rhyfel. Codwyd cofeb iddo yng Nghadeirlan Sant Paul, Llundain ‘er coffâd i’r fuddugoliaeth odidog yn Waterloo’, ac adeiladwyd sawl cofeb gyhoeddus arall, yn cynnwys obelisg yng Nghaerfyrddin wedi’i dalu gyda chyfraniadau gan y cyhoedd. Yn ddiweddarach, cafodd ei goffáu fel un o ‘Arwyr Cymru’ gyda cherflun marmor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Câi Picton, a anwyd yn Hwlffordd ym 1758, ei weld gan nifer fel arwr cenedlaethol i’w ddathlu.

Ond er bod cofebau cyhoeddus yn cael eu codi er mwyn cofio, eu gwir fwriad yn aml yw anghofio. Ac wrth i unigolion fel Thomas Picton gael eu clodfori, mae trais ac erchyllterau ein gorffennol trefedigaethol yn cael eu hanghofio.

Fe wnaeth Picton, fel llawer o rai eraill, elwa yn uniongyrchol o’r fasnach gaethion. Roedd hefyd yn enwog am ei driniaeth greulon o gaethweision a thrigolion eraill yn ystod ei gyfnod fel llywodraethwr Prydeinig cyntaf Trinidad.

Ym 1803 cafodd ei roi ar brawf yn Llundain am ganiatáu i Louisa Calderon, merch ‘mulatto’ rydd 14 oed oedd wedi’i chyhuddo o ddwyn, gael ei harteithio. Roedd Louisa wedi’i chrogi gerfydd ei garddwrn am bron i awr, gyda’i holl bwysau’n cael ei gynnal gan un peg pren – ffurf erchyll o arteithio gâi ei alw’n bicedu.

Yn ystod yr achos, cafodd Picton hefyd ei gyhuddo o arteithio, llosgi’n fyw a thorri pennau caethweision oedd wedi’u cyhuddo o ddewiniaeth. Roedd ei fyddin fechan yn defnyddio crogi ac anffurfio fel ffyrdd o gadw rheolaeth. Cafodd ei ganfod yn euog, ond cafodd y dyfarniad ei wrthdroi’n ddiweddarach, wrth i Picton ddadlau fod Trinidad o dan gyfraith Sbaen ar y pryd, oedd yn caniatáu arteithio.

Cafodd y portread hyd-llawn hwn o Picton yn ei wisg filwrol gan Martin Archer Shee ei roi i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1907, blwyddyn ei sefydlu, felly mae’n un o’r paentiadau cyntaf i gael ei gynnwys yng nghasgliadau’r Amgueddfa. Credir ei fod wedi’i arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1816, flwyddyn ar ôl marwolaeth Picton.

I gael hanes llawn achos Louisa Calderon, a rôl Thomas Picton, gweler James Epstein, ‘Politics of Colonial Sensation: The Trial of Thomas Picton and the Cause of Louisa Calderon’, American Historical Review (Mehefin 2007).

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Kathleen Evans
25 Gorffennaf 2017, 10:33
My husbands family tree goes back to General Picton. This portrait is definitely one that we will show to his American cousins who traced the family tree when they visit in October.We live in Aberdare.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd