Casgliadau Celf Arlein
Alfred George Edwards, Yr Archesgob Cymru (1848-1937) [Alfred George Edwards, Archbishop of Wales (1848-1937)]
SOLOMON, Solomon Joseph (1860 - 1927)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 61.0 x 50.8 cm
Derbyniwyd: 1937; Rhodd; Iarll Plymouth
Rhif Derbynoli: NMW A 5069
Ganwyd Alfred George Edwards yn Sir Feirionydd a daeth yn Archesgob Cyntaf Cymru. Bu’n eiriol dros yr Eglwys Wladol (Anglicanaidd) gan wrthwynebu Mesur Eglwysi Cymru (1914) arweiniodd at ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru a sefydlu’r ‘Eglwys yng Nghymru’. Enillodd glod fodd bynnag am ei waith diplomyddol wrth drafod newidiadau i’r mesur, ac fe’i apwyntiwyd yn bennaeth yr eglwys newydd ym 1920.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.