Casgliadau Celf Arlein
Yr Wyddfa o Lanfrothen [Snowdon from Llanfrothen]
SPENCER, Sir Stanley (1891 - 1959)
© Ystâd Stanley Spencer 2002. Cedwir pob hawl DACS
Dyddiad: 1938
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 50.9 x 76.2 cm
Derbyniwyd: 1938; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2166
Ymddiswyddodd Spencer o'r Academi Frenhinol ym 1935 ar ôl i ddau o'i weithiau gael eu gwrthod, ac erbyn 1938 roedd mewn trafferth ariannol. Peintiwyd yr olygfa hon yn Llanfrothen ger Harlech ym mis Medi a dechrau Hydref y flwyddyn honno, pan oedd yn aros gyda'i wraig gyntaf, Hilda, ger yr Wyddfa. Mae’r gwaith yma’n dangos lliwiau a gweadau gwahanol tirwedd y gogledd. Yr Wyddfa yw ein golygfa enwocaf, ond yn y llun yma fe’i gwasgwyd i’r gornel y tu ôl i’r cymylau. Y caeau, y waliau a’r coed yn y blaendir yw ffocws y llun, ac fe’u peintiwyd â realaeth ddwys. Peintiodd Spencer nifer o dirluniau yn y 1930au, am eu bod yn gwerthu’n dda.
sylw - (1)
I was wondering if you could please change the credit on this image (and any other Stanley Spencer works you hold)? The Spencer Estate is now managed by Bridgeman Images and not DACS.
Many thanks,
Sian