Casgliadau Celf Arlein
Ffynnon, fersiwn fach [Fountain, small version]
SUTHERLAND, Graham (1903 - 1980)
Dyddiad: 1965
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 63.5 x 53.3 cm
Rhif Derbynoli: NMW A 2277
Mae’r paentiad hwn yn un o gyfres a wnaeth Sutherland ar thema ffynhonnau a dwˆ r sy’n rhedeg yng nghanol y 1960au. Mae’r ffynnon yn nodweddiadol o ardal Menton, ond mae wedi’i hail-osod yng nghanol llawer o ddail, gan greu awyrgylch rhyfedd. Mae’r dail du a gwyrdd yn erbyn cefndir glas tywyll yn creu patrwm cryf, graffig. Mae hyn yn atgoffa rhywun o gynlluniau Sutherland ar gyfer tecstilau a thapestrïau ac o waith Henri Matisse yr oedd Sutherland yn ei edmygu’n fawr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.