Casgliadau Celf Arlein
Di-deitl, Ffurf fel Ton
SUTHERLAND, Graham (1903 - 1980)
Dyddiad: 1976
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 109.5 x 100.0 cm
Derbyniwyd: 1989; Trosglwyddwyd; Ymddiriedolaeth Graham Sutherland
Rhif Derbynoli: NMW A 2271
Datblygwyd ‘ffurf donnog’ y paentiad hwn o ddarn o bren a ganfu Sutherland wrth grwydro Sir Benfro. Mae pelen goch dywyll y machlud yn danbaid yn erbyn gwyrddni’r gwyll a’r wybren dywyll.
Fel sy’n wir am lawer o’i waith yn y cyfnod hwn, mae’r gwrthrych dan sylw wedi’i osod yn erbyn llinell lorweddol gref ar lan aber ac mae fel pe bai’n meddu ar raddfa ac arwyddocâd enfawr. Yn ôl Sutherland, byddai ‘cyffro cyntaf darganfyddiad’ yn arwain at ‘rywbeth arall, wedi’i reoli a’i drefnu gan y meddwl’.
sylw - (1)