Casgliadau Celf Arlein
Philip Proger (1585-1644)
YSGOL BRYDEINIG neu EIDALAIDD, 17eg ganrif
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 104.5 x 83.7 cm
Derbyniwyd: 1988; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 18
Dyma’r portread cynharaf y gwyddom amdano o Gymro’n dal cenhinen. Yn llysoedd y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, byddai’r brenin a gwŷr y llys yn gwisgo cennin ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Mynegodd Iago I mai ‘ffasiwn dda a theilwng oedd hi i Gymry wisgo cennin ... gan fod y Cymry yn gwisgo cennin fel eu dewis Arwydd i goffáu brwydr fawr Tywysog Du Cymru’. Bu Philip Proger o Wernddu, Sir Frycheiniog, yn gwasanaethu yn Llys Iago I, ef oedd yn was llys i Iago I ac wedyn yn Wastrod y Siambr Gyfrin. Mae ei wallt hir llyfn a’i farf pigfain yn nodweddiadol o ffasiwn y Brenhinwyr.
sylw - (2)