Casgliadau Celf Arlein
Crist a'r Wraig yn Godinebu
TIEPOLO, Domenico (1727 - 1804)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 43.3 x 63.8 cm
Derbyniwyd: 1967; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 96
Seiliai Tiepolo ei arddull ar arddull ei dad Giovanni Battista Tiepolo (1696-1770), a bu'n gweithio gydag ef yn yr Eidal, yr Almaen a Sbaen. Ar ôl marw Giovanni, dychwelodd Domenico i Fenis, dinas ei eni, lle cafodd ei ethol yn Llywydd Academi'r Peintwyr ym 1780. Yn yr hanes hwn o'r Beibl (Ioan VIII,1-11), gofynnwyd i Grist farnu gwraig a oedd wedi ei chyhuddo o odineb, ac meddai 'Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi'
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.