Casgliadau Celf Arlein
Pozzuoli
WILLIAMS, Penry (1802 - 1885)
Dyddiad: 1831
Cyfrwng: olew ar bapur ar gynfas
Maint: 27.8 x 41.5 cm
Derbyniwyd: 1940; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 512
Mae’r braslun olew hwn sy’n dangos tref Pozzuoli, ger Napoli, yn naturiol, anffurfiol ac yn drawiadol o ffres. Ond, fel nifer o artistiaid eraill o’r cyfnod, ni wnaeth Penry Williams erioed feddwl y byddai astudiaethau o’r math yn cael eu gweld yn gyhoeddus. Un tro dywedodd wrth ei noddwr, Joseph Bailey, y byddai ei gasgliad o frasluniau bach anorffenedig ‘yn ddefnyddiol i mi yn unig, a heb fod o unrhyw ddiddordeb i chi’.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.