Casgliadau Celf Arlein
Sgwd yr Eira, Cwm Nedd [Sgwd yr Eira, Vale of Neath]
WILLIAMS, Penry (1802 - 1885)
Dyddiad: 1819
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 23.5 x 32.0 cm
Derbyniwyd: 1939; Rhodd; John Herbert James
Rhif Derbynoli: NMW A 527
Mae Cwm Nedd yn ymestyn tuar'r gogledd-ddwyrain o Lansawel i Bontneddfechan. Cafodd harddwch golygfeydd y lle ei ddarganfod gan Thomas Hornor (1785-1844), a gynhyrchodd nifer o lyfrau o luniau dyfrlliw o'r ardal ym 1816-1820. Mae'r olygfa hon yn dangos y rhaeadr uchaf ar afon Hepste, a ddisgrifiwyd ym 1835 gan William Weston Young yn ei Guide to the Beauties of Glyn Neath fel hyn:'Pan fydd digon o ddw^r, mae Cilhepste Uchaf fel lliain mawr, ac o lwyfan uchaf y graig lle mae'n disgyn, gallwch gerdded neu farchogaeth o dani'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.