Casgliadau Celf Arlein
Ceyx ac Alcyone [Ceyx and Alcyone]
WILSON, Richard (1714 - 1782)
Dyddiad: 1768
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 101.5 x 127.0 cm
Derbyniwyd: 1979; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 65
Yn y 1760au cynhyrchodd Wilson grŵp o ddarluniau yn dangos trasiedi aruchel, fel rheol o chwedloniaeth glasurol. Dangoswyd y gwaith hwn yng Nghymdeithas yr Arlunwyr ym 1768. Yn ôl yr awdur Lladin, Ofydd, boddodd Ceyx, Brenin Trachinia, pan oedd ar ei fordd i drafod gyda'r oracl, Claros.Gwelir ei Frenhines, Alcyone, a glywodd am y drasiedi mewn breuddwyd, yn wylo'n hidl wrth i gorff gwelw ei gŵr gael ei gludio i'r lan. Trowyd y brenin a'r frenhines yn adar - yr Alcyonau. Disgrifiwyd ymdrechion Wilson i beintio themáu hanesyddol gan Reynolds yn 'antur anodd iawn'.
sylw - (2)