Casgliadau Celf Arlein
Gwynt y Môr [Sea Wind]
YEATS, Jack Butler (1871 - 1957)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: olew ar hardbord
Maint: 22.9 x 35.9 cm
Derbyniwyd: 1984; Ar fenthyg; Ymddiriedolaeth Derek Williams
Rhif Derbynoli: NMW A(L) 625
Mab i'r peintiwr Gwyddelig John Butler Yeats a brawd y bardd enwog W. B. Yeats oedd Jack Yeats. Ganed ef yn Llundain a gweithiai i ddechrau fel arlunydd graffig a darlunydd. Symudodd i Iwerddon ym 1910 a dechreuodd beintio lluniau olew. Mae'r lliwiau llachar ac arddull gyfnewidiol, Fynegiannol yr olygfa greigiog hon ar arfordir Iwerddon yn nodweddiadol o'i arddull ddiweddarach.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.