Casgliadau Celf Arlein
Richard Crawshay (1739-1810)
YSGOL BRYDEINIG, 18fed ganrif
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 135.0 x 94.5 cm
Derbyniwyd: 1952; Rhodd; Y Capten Geoffrey Crawshay
Rhif Derbynoli: NMW A 519
Mab i ffermwr o Swydd Efrog oedd Richard Crawshay (1739-1810) a aeth yn brentis at Mr Bicklewith, a oedd yn berchen ar warws haearn yn Llundain.
Erbyn 1763 yr oedd Crawshay yn rhedeg y busnes ac yn fuan daeth yn fasnachwr haearn llwyddiannus ac yn ddeliwr mewn eitemau haearn bwrw. Ym 1786 cafodd brydles Gwaith Haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful a dod i'w reoli erbyn 1794. Erbyn 1803 hwn oedd canolfan toddi haearn pwysicaf Prydain. Mae'r portread hwn ohono yn un o sawl fersiwn a beintiwyd i deulu a chyfeillion Crawshay.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.