Casgliadau Celf Arlein
Omai (c.1753-c.1776/7), Joseph Banks (1743-1820) and Dr Daniel Solander (1736-1782)
PARRY, William (1743 - 1791)
Dyddiad: c.1775-76
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 150 cm
Derbyniwyd: 2003; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 26031
Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn
Mae'r darlun ymddiddan hwn yn portreadu Joseph Banks, a ddaeth yn Llywydd ar y Gymdeithas Frenhinol, gyda Dr Daniel Solander, y botanegydd o Sweden a Cheidwad Hanes Natur yr Amgueddfa Brydeinig, a'r brodor o Tahiti, Omai. Banks a Solander oedd naturiaethwyr blaenllaw'r cyfnod a aeth yn gwmni i'r Capten Cook ar ei daith arwrol gyntaf i Dde'r Môr Tawel ym 1768. Roedd Omai wedi teithio i Loegr ym 1773 ar long Capten Tobias Furneaux, yr Adventure, ar ôl dod i adnabod y criw.
Rhoddwyd Omai i ofal Banks a Solander oherwydd eu bod wedi astudio ieithoedd a diwylliant Tahiti yn ystod eu taith i'r Môr Tawel. Daeth y dyn o Tahiti yn dipyn o seren ar y llwyfan gymdeithasol yn gyflym, wrth giniawa yn y Gymdeithas Frenhinol a chael ei gyflwyno i'r Brenin Siôr III. Tra bod Solander wedi ei bortreadu yn eistedd wrth ddesg, mae Banks yn y canol, yn sefyll, ac yn ystumio tuag at Omai, sydd mewn gwisg llaes gwyn. Mae Parry wedi dal naws gydweithredol ymchwil ddeallusol a gwyddonol y cyfnod yn y gwaith. Roedd yr artist yn ddisgybl i Syr Joshua Reynolds, ac mae ei ddylanwad yn amlwg yma. Mae'n bosibl y cafodd Parry'r cyfle i beintio Omai drwy ei feistr, am i Reynolds bortreadu'r dyn o Tahiti hefyd. Peintiodd Parry y portread grŵp hwn ar ôl iddo ddychwelyd o'r Eidal ym 1775. Mae'r peintiad wedi yn trin y brodor Omai fel rhywun cydradd â'i gyfeillion Ewropeaidd.