Casgliadau Celf Arlein
Tirwedd Cymreig a Dwy Ddynes yn Gweu
DYCE, William (1806 - 1864)
Dyddiad: 1860
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Derbyniwyd: 2010
Rhif Derbynoli: NMW A 29527
Prynwyd gyda chymorth Cronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, ystâd Alan Thomas a nifer o roddwyr preifat, 2010.
Mae'r paentiad yn olygfa ddelfrydig Fictoraidd o'r 'Gymru wyllt' a'i phobl 'ddilychwin'. Dyma olygfa y mae'r artist ei hun wedi'i gosod, yn hytrach na'i gweld. Mae'r fenyw ieuengaf mewn gwisg Gymreig, a oedd mewn gwirionedd yn cael ei gwisgo ar adegau arbennig yn unig. Mae'r ddwy yn gwau sanau o ddarnau o wlân, er bod hyn yn waith ar gyfer y cartref, ac wedi diflannu'n gyffredinol erbyn 1860. Mae'n llawn gwrthgyferbyniad – rhwng oed a harddwch, a rhwng dynoliaeth fregus a ffurfiadau daearegol hynafol, gyda'r lleuad cilgant yn awgrymu cylchdro'r bydysawd.
Fodd bynnag, mae'r gwahanol elfennau yn y peintiad wedi'u seilio ar waith arsylwi manwl. Roedd William Dyce yn gefnogwr pwysig i nod y Cyn-Raffaeliaid i adfywio celf Seisnig drwy wirionedd natur. Mae ei waith mwyaf adnabyddus, Bae Pegwell (1858, Tate) yn Gyn-Raffaelaidd yn ei gofnod o'r creigiau calch ger Ramsgate. Arhosodd Dyce yn Nyffryn Conwy am chwe wythnos yn hydref 1860, lle bu'n edmygu a darlunio 'pob amrywiaeth o olygfeydd Cymreig.' Mae Tirwedd Cymreig â Dwy Ddynes yn Gweu, a beintiwyd wedi iddo ddychwelyd i Lundain, yn tynnu ar y profiad hwn.
sylw - (6)
Hi there Karen,
Thanks for your enquiry. I will pass it on to the art dept and get back to you.
Sara
Digital Team
Has this been on loan/display in North Wales or Scotland, if not are there any plans for it to be seen elsewhere?
I notice from above that it has been on display in Florida, could you possibly give any information relating to this?
Many thanks
Karen
Hi there Nikita,
Unframed, the painting is 36 x 58 cms (hxw).
Best,
Sara
Digital Team
Sara
Digital Team