Casgliadau Celf Arlein
Robert Owen (1771-1858)
BROOKE, William Henry (1772 - 1860)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 76.2 x 63.5 cm
Derbyniwyd: 1913; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 531
Ganed Robert Owen (1771-1858) yn y Drenewydd, Maldwyn a daeth yn droellwr cotwm llwyddiannus.Yn ei felinau yn New Lanark yn yr Alban profodd fod amodau gweithio da yn golygu elw da. Roedd ei waith A View of Society, a gyhoeddwyd ym 1813, yn seiliedig ar ei egwyddorion. Roedd yn arloeswr sosialaidd ymarferol ac yn dad y Mudiad Cydweithredol. Mae'r arlunydd W.H.Brooke yn fwy adnabyddus fel darlunydd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.