Casgliadau Celf Arlein
Y Forwyn a'r Plentyn rhwng y Santes Helena a Sant Ffransis
ASPERTINI, Amico (c.1474 - 1552)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 85.5 x 71.1 cm
Derbyniwyd: 1986; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 239
Ar ôl bod yn astudio hynafiaethau Rhufain, dychwelodd Aspertini i Bologna. Roedd ei arddull fynegiannol yn ymwrthod â chlasuriaeth Raphael. Mae'r darn allor bach hwn o tua 1520 yn cynnwys y Forwyn a Sant Joseph yn dianc i'r Aifft yn y cefndir. Ar y gwaelod mae ffigyrau lliw carreg yn dangos Moses a'r Llo Aur, y Forwyn a'r Plentyn Josua yn dinistrio'r allorau cau. Mae'r digwyddiadau hyn, ynghyd â phresenoldeb y Santes Helena, mam yr Ymerawdwr Cystennin a oedd yn enwog am addoli'r Groes lle cafodd Crist ei groeshoelio, yn awgrymu mai'r brif thema yw Cristnogaeth yn trechu paganiaeth. Mae'r Plentyn yn gwisgo cadwen o gwrel, sef addurn Eidalaidd rhag y Diafol. O dan ei droed mae pelen grisial gyda Duw yn creu Adda. Roedd y gwaith hwn yng nghasgliad William Roscoe yn Lerpwl ym 1816, ac yno priodolodd yr arlunydd Henry Fuseli y gwaith i Ghirlandaio a Michelangelo.
sylw - (2)
Incidentally, please let me register a howl of protest against the postcard on sale at the gallery. By trimming the left and right edges of the image it manages to exclude Joseph and thereby makes nonsense of the Flight into Egypt.