Casgliadau Celf Arlein
Tirlun Afon gydag Eglwys SS Giovanni e Paolo, Rhufain
ASSELIJN, Jan (c.1610 - 1652)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 163.0 x 218.0 cm
Derbyniwyd: 1972; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 26
Roedd Jan Asselijn yn un o grŵp o arlunwyr Iseldiraidd a deithiodd i’r Eidal gan ddod o dan ddylanwad goleuni cynnes cefn gwlad yng nghyffiniau Rhufain. Hyfforddwyd Asselijn yn Amsterdam a threuliodd lawer blwyddyn yn Rhufain yn ystod diwedd y 1640au. Gwnaeth dri braslun o'r eglwys Rufeinig hon o'r dwyrain, gan gynnwys y tai a'r gerddi sy'n ffinio â'r llwybr ar y dde. Yma fe welwn ni’r eglwys wedi’i darlunio’n llawer mwy nag y mae hi, ar dirlun ag afon ddychmygol, mewn goleuni Eidalaidd cynnes. Mewn gwirionedd, roedd yr eglwys yng nghanol Rhufain gyda gerddi a thai o amgylch iddi.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.