Casgliadau Celf Arlein
Aberdaugleddau [Milford Haven]
ATTWOOD, J. (fl.1770 - fl.1780)
Dyddiad: 1776
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 71.7 x 104.3 cm
Derbyniwyd: 1947; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 429
Roedd harbwr mewnol anferth Aberdaugleddau yn ne Sir Benfro yn fan cychwyn pwysig i hwylio i Iwerddon ac America. Mae'n bosib fod y llynges sydd wedi ymgasglu yn cludo nwyddau ar gyfer Rhyfel Annibyniaeth America. Y tu hwnt mae hen bentref ar Afon Cleddau a ddefnyddiwyd fel canolbwynt i dref Milffwrdd, a osodwyd allan gan R.E.Greville ym 1790. Ni wyddys dim pellach am J.R. Attwood. Ym 1794 cafodd y cyfansoddiad hwn ei atgynhyrchu fel engrafiad yn yr European Magazine.
sylw - (1)