Casgliadau Celf Arlein

Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio'r Eunuch

CLAUDE Gellée, Le Lorrain (1600 - 1682)

Dyddiad: 1678

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 88.0 x 142.2 cm

Derbyniwyd: 1982; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd

Rhif Derbynoli: NMW A 4

Yn y darlun hwn gwelir tirlun gyda’r hwyr a’r apostol Philip yn bedyddio’r eunuch o Ethiopia.  Wrth ddychwelyd yn ei gerbyd o Jerwsalem i Ethiopia cyfarfu eunuch llys â'r apostol Philip, a'i darbwyllodd fod proffwydoliaethau Eseia yn yr Hen Destament wedi eu gwireddu ym mywyd a marwolaeth Crist (actiau'r apostolion VII, 26-38). Cafodd y llun hwn a'i gymar Crist yn ymddangos i Mair Magdalen ar Fore'r Pasg (yn Frankfurt) eu peintio i'r Cardinal Fabrizio Spada ym 1678. Roedd swyddogaeth genhadol Sant Philip yn cyd fynd ag ymdrechion y Cardinal i wrthsefyll Protestaniaeth. Gwelir gwahanol adegau o'r dydd yn y ddau lun: yma mae'n dechrau nosi, ac yn y llall mae'n fore. Er bod stori yn destun i’r peintiad, y tirlun sy’n cael y lle blaenaf.  Ymgartrefodd Claude yn Rhufain lle perffeithiodd ddelfrydiaeth – arddull o beintio tirluniau lle gosodir natur mewn trefn ofalus.  Roedd darluniau Claude yn arbennig o boblogaidd ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif. Roedd Cymro, Richard Wilson, yn ei edmygu’n fawr.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Stephen
26 Ionawr 2021, 10:52
Gorgeous, gorgeous painting - if you look at the two horses in close-up they are sheer heaven.
David Newland
30 Awst 2017, 10:50
I'm pleased to say that this exquisite painting is currently on public display. I understand it used to hang at Bretton Hall when it was the Yorkshire family seat of the Wentworth/Beamount/Allendales, until the house and park were sold in the 1940s to West Riding County Council to create Bretton Hall College.
David Brian Armstrong Volunteer Guide
15 Mawrth 2014, 20:35
I assume that the site has not been updated recently, as to my knowledge, this picture has not been on show for sometime, which is a great pity as it would have so complemented the Constable exhibition. It's to be hoped that it will be available again for the Wilson Exhibition later in the year.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd