Casgliadau Celf Arlein
Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Dde [View of Margam House, Glamorgan, looking South]
YSGOL BRYDEINIG, 17eg neu 18fed ganrif
Dyddiad: c.1700
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 146 x 145 cm
Derbyniwyd: 2012; Prynwyd; prynwyd gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelf
Rhif Derbynoli: NMW A 29924
Adeiladau domestig Abaty Margam oedd man cychwyn datblygu Plasty Margam yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Ochr ogleddol y plasty oedd cefn y tŷ ac mae ei gynllun yn adlewyrchu sut y câi ei ddefnyddio. Roedd ystafelloedd y teulu, gyda'u ffenestri di-ri, ar y chwith, a'r ceginau, y stablau a llety'r gweision a'r morwynion ar y dde. Mae olion y cabidyldy yn y canol, ynghyd ag eglwys y plwyf gerllaw, sy'n un o adeiladau'r fynachlog ganoloesol a oedd wedi goroesi. Di-nod iawn yw adeiladau bach to gwellt pentref Margam yng nghornel dde isa'r darlun, o gymharu â'r plasty.
Saif y plasty mewn parc ceirw gyda pherllannau a gerddi ffurfiol o'i gwmpas. Tŷ gwledda yw'r adeilad sy'n debyg i dŵr ar y chwith, a adeiladwyd tua 1670. Y tu hwnt iddo, mae rhodfa osgeiddig yn arwain y llygaid drwy'r caeau cyfagos i bentref bach Notais a thwyni tywod Cynffig, sydd yn llygad yr haul, a gwelir Môr Hafren yn y pellter.