Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1768-1769
Cyfrwng: golch arian, gwydr,
Maint: h(cm) : 70.5 x l(cm) : 56 x w(cm) : 7.6
Derbyniwyd: 1964
Rhif Derbynoli: NMW A 50386-414
Rhodd gan fam Syr Watkin Williams-Wynn i'w merch-yng-nghyfraith newydd Henrietta Somerset ym 1768 oedd yr offer ymolchi arian gwych yma, sy'n cynnwys drych, canhwyllbren a blychau ar gyfer gemwaith a phatsys. Daeth eiddo o'r fath yn symbol o safle a statws uchel yn y 1660au ac yn cael eu harddangos ar fyrddau gwisgo ar orchuddion les cain. Thomas Heming oedd prif ofaint aur y Brenin, ac mae'r set hon yn debyg i'r hyn a gynhyrchodd ddwy flynedd ynghynt ar gyfer Brenhines Denmarc.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.