Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1750-1763 ca
Cyfrwng: copr, haearn, pres
Maint: h(cm) : 25.2 x l(cm) handle to spout : 24.4 x diam
Derbyniwyd: 1994; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 51185
Ym 1756 aeth Dr Pococke, Esgob Meath ar ymweliad â Gweithdy japanwaith y teulu Allgood ym Mhont-y-pŵl. Nododd eu bod yn cynhyrchu hambyrddau, canwyllbrennau a nifer o eitemau eraill, i gyd wedi'u haddurno yn null Japan. Cafodd Dr Pococke arddeall taw gyda deilen arian y cynhyrchwyd y darnau golau o'r addurn trilliw ffug hwn. Roeddent yn eu haddurno â thirluniau Tsieineaidd a ffigyrau mewn aur yn unig, ac nid yn defnyddio lliw fel yn Birmingham. Ym marn yr esgob, roedd y gwaith yn llawer gwell na gwaith Birmingham, ond hefyd yn llawer drytach - gan taw dim ond dau frawd a'u plant oedd yn cynhyrchu ac iddynt gadw'r gyfrinach. Byddent hefyd yn addurno blychau copr, neu unrhyw beth o gopr na allai gael ei wneud yn hwylus mewn haearn, yn null Japan.